Nid yw ystyr ac arwyddocâd yr enw Myddfai yn glir ac ni chynigiwyd eglurhad boddhaol hyd yn hyn. Fel y dywed David B James, yn ei lyfr ‘Myddfai, it’s Land and Peoples’, “Mae’n debygol iawn bod ystyr penodol i’r gair Myddfai, ac o bosib fod arwyddocâd ffisegol iddo. Awgrymir hyn gan y ffaith nad yw’r gair yn unigryw i un gymdogaeth ond caiff ei weld hefyd fel enw pentrefan a elwir yn Flaenfyddfai neu Mothvey, sydd o fewn plwyf Llanarthne.”
Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, yn ôl y cofnodion, roedd Myddfai yn boblogaidd gyda meddygon a lluniwyd casgliad o feddyginiaethau. Mae astudiaeth o’r ryseitiau hyn yn dangos bod meddyginiaeth Gymreig yn llawer mwy blaengar na rhan fwyaf Ewrop ar y pryd, gyda chyfarwyddiadau yn cael eu rhoi ynghylch meintiau a dulliau paratoi’r cynhwysion – sef rhywbeth anarferol iawn ar y pryd. Roedd y meddyginiaethau a argymhellwyd i gael eu paratoi’n ofalus a’u rhoi i drin pob math o gyflyrau, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â’r amodau byw a gweithio oedd yn bodoli ar y pryd.
Dros y blynyddoedd, mae stori Meddygon Myddfai wedi’i phlethu â chwedl Llyn y Fan Fach. Mae llawer o fersiynau o’r chwedl, rhai’n fwy blodeuog na’i gilydd, ond yn gyffredin iddynt oll mae denu Morwyn y Llyn gyda bara a chanlyniadau taro tri ‘ergyd’. Dywedwyd bod y cwpl ifanc wedi mynd i fyw i Esgairllaethdy a magu tri mab a ddaeth yn feddygon yn ddiweddarach.
Cael gwybod mwy am Feddygon Myddfai a’n Hanes
Roedd “Meddygon Myddfai” yn llysieuwyr yn y deuddegfed ganrif, oedd yn gyfnod o syniadau a dysgu newydd a ysbrydolodd y cyfnod Gothig ac a roddodd fomentwm iddo. I’r gwrthwyneb i’r farn gyffredin fod y cyfnod canoloesol yn gyfnod tywyll, roedd mewn gwirionedd yn gyfnod o bwysigrwydd diwylliannol mawr, gyda’r prifysgolion cyntaf yn cael eu creu ac ysgolion mynachaidd yn cael eu sefydlu. Daeth ystod o wybodaeth newydd ar gael drwy gyfieithiadau, yn cynnwys testunau meddygol.
Roedd Myddfai yn un ganolfan o’r fath a flodeuodd o ganlyniad i’r wybodaeth newydd hon. Yn oddeutu 1177 OC roedd y tywysog Cymreig yr Arglwydd Rhys (1132 – 1197) llywodraethwr teyrnas y Deheubarth yn Ne Cymru yn allweddol wrth noddi mynachlogydd Talyllychau ac Ystrad Fflur. Fel y mae enw’r ail – sef “Haenau Blodau” – yn ei awgrymu, roedd yr abatai hyn hefyd yn ffynnu fel ysgolion ac ysbytai meddyginiaeth lysieuol.
Daeth Rhiwallon, sef yr ymarferydd gorau yn feddyg personol i’r Arglwydd Rhys yn Ninefwr. Cynorthwywyd Rhiwallon gan ei dri mab, Cadwgan, Griffith ac Einon. Yn gyfnewid, fe’u gwobrwywyd gyda thir o gwmpas Myddfai.
“Diogelodd yr Arglwydd Rhys eu hawliau a’u breintiau gydag uniondeb ac anrhydedd.”
Yn y mynachlogydd hyn byddai’r meddygon wedi ennill llawer o’u sgiliau ymarferol mewn perthynas â meddyginiaeth lysieuol. Byddai ysgolheictod y mynachod hefyd wedi annog cofnodi eu ryseitiau ar bapur. Fe wnaethant hyn, “Fel cofnod o’u medr rhag ofn na fyddai neb arall yn meddu ar yr un medrau.” Fodd bynnag, fel y dywed Pughe, “mae’n annhebygol bod eu materia medica yn dod o’r cyfnod hwnnw.” Mae’n fwyaf tebygol mai casgliad o wybodaeth ydoedd o’r canrifoedd blaenorol o’r defnydd o lysiau gan lwythi a phentrefi De Cymru.